Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

(CLA(4)-06-12)

 

CLA109

 

Adroddiad drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol

 

Teitl:  Rheoliadau Arolygon Etholiadau Lleol (Cymru) 2012

 

Gweithdrefn:  Gadarnhaol 

 

Mae adran 1 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn gosod dyletswydd ar awdurdod lleol (cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol), yn unol â rheoliadau, i gynnal arolwg ar ôl pob etholiad cyffredin i gyngor y sir neu fwrdeistref sirol ac i bob cyngor cymuned (a gynhelir fel rheol ar yr un pryd bob pedair blynedd) yn ardal yr awdurdod lleol.

 

Rhaid i awdurdod lleol gynnal yr arolwg drwy ofyn cwestiynau rhagnodedig i gynghorwyr ac i ymgeiswyr aflwyddiannus sydd wedi ymgeisio am gael eu hethol yn gynghorwyr yn ardal yr awdurdod lleol.

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi'r cwestiynau y mae'n rhaid i awdurdod lleol eu gofyn wrth gynnal arolwg etholiad lleol. Mae'r cwestiynau rhagnodedig a’r ffurf y caniateir eu gofyn ynddi wedi eu dangos yn yr Atodlen i'r Rheoliadau.

 

Craffu technegol

 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i fod yn destun adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

 

Craffu ar rinweddau

 

Nodwyd y pwynt canlynol i fod yn destun adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn -

 

Mae llawer o’r wybodaeth sydd i’w gasglu gan yr arolwg hwn yn ddata sensitif personol o fewn yr ystyr a roddir i’r term hwnnw gan adran 2 o Ddeddf Diogelu Data 1998.  Er bod y Mesur yn darparu ar gyfer bod yn anhysbys, gall y nifer fechan o ymgeiswyr ar gyfer rhai awdurdodau ei gwneud yn gymharol rwydd i adnabod y rhai sydd â chyfuniad penodol o nodweddion (oedran, rhywedd, crefydd ayb).  Mae ffurf yr holiadur felly’n cynnwys troednodyn sy’n tynnu sylw at y ddarpariaeth yn adran 1 o’r Mesur nad oes dyletswydd i gwblhau’r arolwg.

[Rh.S. 21.3(ii)       ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad;]

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Mawrth 2012